Cyfeillion Storey Arms

Sefydlwyd Cyfeillion Storey Arms yn 2010 fel ffordd o godi arian i helpu plant o ardaloedd mwy difreintiedig Caerdydd i fynychu cyrsiau yng Nghanolfan Storey Arms.   Darperir cymorth ariannol i ddisgyblion neu gymorth gyda thrafnidiaeth gan alluogi mwy o bobl ifanc i ddod gyda’u hysgolion a mwynhau manteision ymweliad dydd neu raglen breswyl.

I rai disgyblion o Gaerdydd, dyma fydd eu hymweliad cyntaf i’r Bannau Brycheiniog ac efallai eu harhosiad cyntaf i ffwrdd o’u cartref. Mae’r holl ddisgyblion yn gadael wedi profi pethau newydd y tu mewn a thu allan i’r ganolfan.  Mae’r profiadau maen nhw wedi’u rhannu gyda’u ffrindiau a’u hathrawon yn aros gyda nhw ac yn fuddiol i’w haddysg yn ogystal â’u bywydau personol.

Mae Cyfeillion Storey Arms hefyd yn codi arian i wella’r cyfleoedd i’r holl ymwelwyr i Storey Arms trwy ddarparu adnoddau a chymorth ychwanegol i’r ganolfan.

  • Storey Arms

Yn 2014 daeth Cyfeillion Storey Arms yn elusen gofrestredig – Rhif 1159829

Mae’r Cyfeillion hefyd yn cynnal digwyddiadau yn ystod y flwyddyn i godi arian ac fel ffordd o gymdeithasu i’r rheiny â diddordeb yn y ganolfan.   Mae wastad yn chwilio am aelodau newydd a phobl sydd â diddordeb mewn helpu mewn digwyddiadau neu gymryd rhan fel aelod pwyllgor!

Mae gwefan Cyfeillion Storey Arms wrthi’n cael ei datblygu a bydd yn cael ei lansio cyn bo hir!

 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cysylltwch dros e-bost ar friendsstoreyarms@btinternet.com

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd