Gwybodaeth

Athrawon ac Arweinwyr Grŵp

Rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc a phlant ysgol yng Nghanolfan Storey Arms yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am dros 45 o flynyddoedd. Diogelwch yw ein blaenoriaeth a chawn ein trwyddedu a’n archwilio gan yr Adventure Activities Licensing Service (AALS)

Addysg Awyr Agored

Bydd yr addysg awyr agored safon uchel gaiff ei darparu yn Storey Arms yn cael dylanwad cadarnhaol ar bobl ifanc yn ymweld, dylanwad yn aml all newid cwrs bywyd. Mae bod allan yn yr awyr agored yn cynnig buddion fel iechyd a llesiant, hybu chwilfrydedd a datblygu gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas.

Mae’r budd o ymweliad neu brofiad preswyl yn Storey Arms yn cynnwys

  • Perthynas well gydag eraill – cyfoedion ac arweinwyr
  • Dycnwch, hunan hyder a llesiant
  • Traweffaith ar gyrhaeddiad
  • Traweffaith ar gyfnod pontio
  • Traweffaith ar gydlyniant
  • Traweffaith ar wybodaeth, sgiliau, gwrando a deall

Gallwch gael rhagor owybodaeth am y manteision drwy ddarllen y canllaw OEAP i Ddysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel

Canllaw ar addysg awyr agored gan Outdoor Education Advisors’ Panel

Mae ein staff galluog yn defnyddio’r amgylchedd naturiol  Caiff pobl ifanc eu herio ac fe ddysgant sut i reoli risg tra’n gwneud gweithgareddau fel cerdded ceunentydd, ogofa, dringo, canŵio neu gerdded bryniau.

Gall gweithgaredd gyda’r hwyr gynnwys mynd am dro i’r goedwig ar y llwybr llinyn neu Ffordd y Porthmyn yn y tywyllwch a chyfeiriannu neu ddefnyddio GPS ar gwrs helfa.

Grwpiau

Rydym yn darparu ar gyfer:

  • ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig
  • Gwobr Dug Caeredin
  • Sefydliadau Pobl Ifanc
  • Colegau Addysg Bellach
  • Grwpiau Prifysgol
  • Timoedd busnes ar ‘ddyddiau bant’ a meithrin tîm

Rhaglenni

  • Preswyl – 1 noson/2 ddiwrnod hyd at 5 noson/6 diwrnod
  • Ymweliadau dydd

Er bod rhaglenni ‘safonol’ ar gael, caiff pob ymweliad â Storey Arms eu cynllunio i ymateb i anghenion y grŵp, gan ystyried hefyd y tywydd ar y diwrnod.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer yr amcanion penodol sydd gennych efallai, megis

  • TGAU, BTEC, AS a Lefel A
  • Bagloriaeth Cymru
  • Gwobr Dug Caeredin – alldaith a Preswyl Aur

Ewch i’n hadran Rhaglenni am fwy o fanylion am ein harlwy.

Mae gan ein staff cydwybodol enw da am gyrchu’r filltir ychwanegol gyda phob grŵp i sicrhau bod eich amcanion yn cael eu cyflawni.

Gweinyddiaeth

Bydd ein staff gweinyddol yn eich arwain drwy’r broses archebu i gadarnhau eich ymweliad a darparu’r adnoddau sydd efallai eu hangen arnoch i baratoi eich grŵp.

Cyfrifoldebau a Swyddogaethau

Mae ein tîm staff profiadol yn cymryd cyfrifoldeb am y gweithgareddau dydd a gyda’r hwyr. Y staff sy’n ymweld sy’n cymryd gofal o ochr fugeiliol yr ymweliad.

Argymhellir man lleiaf yswiriant ymweliad ysgol ar gyfer eich ymweliad.  Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gan y ganolfan drwy Gyngor Caerdydd

Adeiladau

Caiff pob adeilad yn Storey Arms ei gynnal a’i gadw a’i archwilio drwy Gyngor Caerdydd ar gyfer pob maes iechyd a diogelwch perthnasol gan gynnwys bacteria clefyd y llengfilwyr, hylendid bwyd a rheoliadau tân.

Ystafelloedd cysgu 4 neu 6 gwely wedi eu rhannu rhwng y ddau adeilad cysylltiol gydag ystafell yr arweinydd gerllaw.

Cawodydd ac ystafelloedd sychu ar gael ar ddiwedd pob diwrnod o weithgaredd.

Trafnidiaeth

Caiff ein fflyd o fysiau mini eu harchwilio’n rheolaidd (bob 12 wythnos) a’u trin. Mae gwregysau diogelwch ymhob un. Mae hawl D1 gan bob un o’n gyrwyr neu mae nhw wedi pasio prawf gyrru bysiau mini Cyngor Caerdydd.

Staff

Mae’r tiwtoriaid awyr agored wedi cymhwyso i lefel uchel ym mhob agwedd ar ddarpariaeth awyr agored, gan gynnwys cymorth cyntaf.

Mae pob aelod o staff yn dal tystysgrifau GDG Uwch a chymwysterau Hylendid Bwyd Hanfodol.

Cyngor dillad ymarferol

Dillad tywyll sydd orau ar gyfer gweithgareddau. Gall dillad golau drochi’n wael a staenio.

Y dillad mwyaf addas ar gyfer gweithgareddau yw:

  • Dillad fflîs
  • Crysau T fel ‘Skins’ neu fest thermol denau – sy’n cadw’n gynnes ar ôl gwlychu
  • Mae sliperi neu fflip fflops yn dda tu mewn i’r ganolfan
  • Mae hetiau a menig yn ddefnyddiol ar hyd y flwyddyn
  • Mae menig golchi yn dda ar gyfer gweithgaredd gaeaf!

Cyngor pacio

Rydym am i bawb fynd â phopeth adref gyda nhw!  Byddwn yn cadw eiddo coll am fis ond wedi hynny caiff ei waredu mewn modd addas.

Anogwch rieni i:

  • Roi label ac enw ar eiddo personol gan gynnwys tywelion, dillad, poteli dŵr ac esgidiau
  • Cynnwys y plant wrth bacio dillad fel ei fod ef/hi yn gwybod beth sydd yn y bag – fydd yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw edrych ar ei ôl!
  • Gadael losin a byrbrydau adref – mae bwyd y ganolfan yn rhagorol!
  • Paciwch fag plastig mawr ar gyfer dillad brwnt a gwlyb ar ddiwedd eich arhosiad

Ewch i tudalen Facebook Ffrindiau Storey Arms.

Rhieni

Yng Nghanolfan Storey Arms, rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc a phlant ysgol yng nghanol Bannau Brycheiniog ers dros 45 o flynyddoedd. Mae diogelwch yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn cael ein trwyddedu a’n harchwilio gan yr Adventure Activities Licensing Service (AALS)

Bydd y rhaglenni gweithgaredd anturus rydym yn eu darparu yn cael effaith gadarnhaol ar eich plentyn, effaith sy’n aml yn gallu newid eu bywydau. Mae bod yn yr awyr agored yn rhoi buddion o safbwynt iechyd a lles, yn annog creadigrwydd a datblygu gwerthfawrogiad o’r byd sydd o’u cwmpas.  Mae’n wybyddus bod dysgu awyr agored yn hybu cymeriad a hunan hyder.

Mae buddion profiad preswyl neu ymweliad â Chanolfan Storey Arms yn cynnwys:

  • Gwella perthynas ag eraill
  • Dygnwch, hunan-hyder a lles
  • Traweffaith ar gyrhaeddiad
  • Traweffaith ar wybodaeth, sgiliau, gwrando a deall

Gallwch gael rhagor owybodaeth am y manteision drwy ddarllen y canllaw OEAP i Ddysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel

Canllaw ar addysg awyr agored gan Outdoor Education Advisors’ Panel

Mae ein tîm staff galluog yn defnyddio’r amgylchedd naturiol.  Caiff pobl ifanc eu herio a’u dysgu i reoli risg tra bônt ar weithgareddau tebyg i gerdded ceunentydd, ogofa, dringo, canŵio neu gerdded y bryniau.

Gall gweithgaredd gyda’r hwyr gynnwys y llwybr llinyn drwy’r coed, taith gerdded ar hyd Ffordd y Porthmyn a helfa gps/cyfeiriannu.

Adeiladau

Caiff pob adeilad yn Storey Arms eu cynnal a’u cadw a’u archwilio drwy Gyngor Caerdydd ar gyfer pob maes iechyd a diogelwch perthnasol gan gynnwys bacteria clefyd y llengfilwyr, hylendid bwyd a rheoliadau tân.

Ystafelloedd cysgu 4 neu 6 gwely wedi eu rhannu rhwng y ddau adeilad cysylltiol gydag ystafell yr arweinydd gerllaw.

Cawodydd ac ystafelloedd sychu ar gael ar ddiwedd pob diwrnod o weithgaredd.

Trafnidiaeth

Caiff ein fflyd o fysiau mini eu harchwilio’n rheolaidd (bob 12 wythnos) a’u trin. Mae gwregysau diogelwch ymhob un. Mae hawl D1 gan bob un o’n gyrwyr neu maen nhw wedi pasio prawf gyrru bysiau mini Cyngor Caerdydd.

Staff

Mae pob tiwtor awyr agored wedi cymhwyso ym mhob agwedd ar ddarpariaeth addysg awyr agored, gan gynnwys cymorth cyntaf.

Mae pob aelod o staff yn dal tystysgrifau GDG Uwch a chymwysterau Hylendid Bwyd Hanfodol.

Cyngor ar ddillad ymarferol

Dillad tywyll sydd orau ar gyfer gweithgareddau. Mae’n bosib y bydd dillad golau yn baeddu a staenio.

Mae’r dillad mwyaf addas ar gyfer gweithgareddau yn cynnwys:

  • Dillad fflîs
  • Crysau T fel ‘Skins’ neu fest thermol denau – sy’n aros yn gynnes pan yn wlyb
  • Mae sliperi neu fflip fflops yn dda tu fewn i’r ganolfan
  • Mae hetiau a menig yn ddefnyddiol ar hyd y flwyddyn
  • Mae menig golchi yn ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau gaeaf!

Awgrymiadau pacio

  • Rhowch label enw ar eiddo personol gan gynnwys tywelion, dillad, poteli dŵr ac esgidiau
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn pacio gyda chi fel ei fod ef/hi yn gwybod beth sydd ganddo/ganddi – bydd hynny’n ei gwneud hi’n haws iddyn nhw edrych ar ôl eu heiddo!
  • Gadewch y losin a’r byrbrydau adref – mae bwyd y ganolfan yn ardderchog!
  • Paciwch fag plastig mawr ar gyfer dillad brwnt a gwlyb ar ddiwedd yr arhosiad

Ewch i tudalen Facebook Ffrindiau Storey Arms.

Disgyblion, Pobl Ifanc

Mae cael teithio oddi cartref gyda ffrindiau o’r ysgol neu sefydliad arall yn gyfle gwych. Bydd y profiadau a rannwch chi yn Storey Arms gyda chi am byth. Byddwch yn dysgu pethau newydd, sgiliau newydd ac yn tyfu mewn hyder wrth i’r ymweliad fynd rhagddo. Byddwch yn gweld a phrofi natur ar ei gorau mewn ogofâu, afonydd neu ar gopaon mynyddoedd.

Mae Canolfan Storey Arms yn lle cynnes a chartrefol yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Daw ei enw o hen dafarn i’r porthmyn, gafodd ei dymchwel ym 1926 ac mae wedi bod yn ganolfan addysg awyr agored am dros 45 o flynyddoedd. Mae wedi ei hadeiladu wrth darddiad afon Taf ac wrth droed copa uchaf y Parc cenedlaethol, Pen y Fan (886m).

Mae’r aelodau staff yn gyfeillgar a phroffesiynol. Byddan nhw’n gwybod sut i roi amser da i chi, eich annog i ymestyn eich hun ymhellach ar y gweithgareddau i gyd a nôl yn y ganolfan.

Eich ymweliad

Pan fyddwch yn cyrraedd cewch eich croesawu gyda chyflwyniad i’r ganolfan. Caiff eich ystafelloedd cysgu eu dangos i chi a byddwch yn casglu eich offer o’r storfeydd, pethau fel esgidiau, dillad dal dŵr a sachau teithio. Mae’r rhain yno i chi eu defnyddio ac i edrych ar eu holau yn ystod eich amser yn y ganolfan.

Mae cael eich briffio gan eich tiwtoriaid awyr agored cyn gweithgareddau yn adegau pwysig a bydd angen i chi wrando yn ofalus.  Byddan nhw’n dweud popeth wrthych chi am eich offer a’r dillad personol y byddwch eu hangen ar gyfer y diwrnod fel eich bod yn gwybod beth i’w wisgo. Mae cinio fel arfer yn cael ei fwyta y tu allan yn ystod y gweithgareddau.  Byddwch yn paratoi eich cinio eich hun, fel arfer ar y noson gynt, ac yn ei gludo yn eich sach deithio.

Yn ystod y dydd byddwch yn cerdded ceunentydd, canŵio, cerdded bryniau, ogofa a dringo creigiau. Gyda’r hwyr byddwch yn mynd am dro i’r goedwig ar y llwybr llinyn neu daith y porthmyn, yn cyfeiriannu neu ddefnyddio GPS ar gwrs helfa.

Mae’r bwyd yn rhagorol yn Storey Arms ac mae’r tîm domestig yn darparu ar gyfer gofynion bwyd pawb.

Cyngor Dillad Ymarferol

Dillad tywyll sydd orau ar gyfer gweithgareddau. Gall dillad golau drochi’n drwm a staenio.

Y dillad mwyaf addas ar gyfer y gweithgareddau yw:

  • Dillad fflîs
  • Crysau T fel ‘Skins’ neu fest thermol denau – mae rhain yn aros yn gynnes ar ôl gwlychu
  • Mae sliperi neu fflip fflops yn dda tu fewn i’r ganolfan
  • Mae hetiau a menig yn ddefnyddiol ar hyd y flwyddyn
  • Mae menig golchi yn ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau gaeaf!

Awgrymiadau pacio

  • Rhowch label enw ar eiddo personol gan gynnwys tywelion, dillad, poteli dŵr ac esgidiau
  • Gofynnwch i’ch rhieni os gallwch chi helpu i bacio – os ydych yn gwybod beth sydd yn eich bag, mae’n ei gwneud yn haws edrych ar ei ôl!
  • Gadewch y losin a’r byrbrydau adref – mae bwyd y ganolfan yn ardderchog!
  • Paciwch fag plastig mawr ar gyfer dillad brwnt a gwlyb ar ddiwedd yr arhosiad

Rydym yn annog gwaith tîm a chydweithredu drwy gydol eich amser yn y ganolfan.  Bydd yn gwneud eich amser yn fwy o hwyl, mwy cofiadwy, llwyddiannus a gwerth chweil!

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd