Os ydych chi’n chwilio am ymweliad diwrnod ysgol, darllenwch ein taflenni i Ysgolion Cynradd ac Uwchradd – byddan nhw’n esbonio manteision yr hyn sydd gennym ni i’w gynnig ar bob lefel addysgol.
Dyma beth rydym yn ei gynnig ar bob un o’r diwrnodau canlynol
Diwrnod Dysgu Awyr Agored
Rydym yn seilio ein diwrnodau dysgu awyr agored yn y Ganolfan a’r ardal o’i hamgylch. Mae is-grwpiau’n cymryd rhan mewn detholiad o dasgau yn y bore, fel y tŵr dringo, llwybr rhaff goedwig, cyfeiriannu, tasgau datrys problemau.
Mae’r grŵp yn treulio’r prynhawn ar daith gerdded antur fach neu daith gerdded ar y bryniau lleol – cyfle i grwydro yn yr awyr agored!
Diwrnod Astudiaeth Mynydd
Mae ein Diwrnodau Astudiaeth Mynydd yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau cynradd sy’n astudio Mynyddoedd a/neu Barciau Cenedlaethol.
O fewn taith gerdded fer o’r ganolfan, gall disgyblion weld ystod eang o nodweddion y gallant fod wedi’u hastudio eisoes yn yr ystafell ddosbarth:
- Daeareg – creigiau, erydu
- Cyrsiau dŵr – ffynhonnau, nentydd, afonydd
- Planhigion Mynydd
- Pryfed, adar, anifeiliaid mynydd
- Tywydd
- Effaith dyn ar natur a’i berthynas â thirwedd y mynydd
- Nodweddion, buddion a gweithrediad Parc Cenedlaethol
- Harddwch naturiol yr ardal yn cael ei thrafod a’i hystyried
Diwrnod Astudiaeth Afon
Gallwch leoli eich Diwrnod Astudiaeth afon TGAU a Safon Uwch yng nghanolfan Storey Arms
Mae’r Afon Tarrell yn codi’n agos at y ganolfan ac yn mynd drwy amrywiaeth o dirweddau cyn cyrraedd Aberhonddu 9 milltir i’r gogledd.
Gall ein hyfforddwyr eich tywys i fannau mynediad addas a darparu sicrwydd diogelwch.
Gallwch ategu eich gwaith maes ymarferol gyda sesiwn ystafell ddosbarth yn ein hystafell addysgu.
Diwrnod Datblygu Tîm
Mae ein Diwrnodau Datblygu Tîm yn addas ar gyfer
- Disgyblion Chweched Dosbarth
- Aelodau grwpiau ieuenctid
- Timau staff ysgol a
- Thimau Busnes
Rydym yn defnyddio tir Canolfan Storey Arms a’r ardal o’i chwmpas.
Mae gennym ddetholiad o brojectau sy’n annog gwaith tîm, cyfathrebu, ymddiriedaeth, rheoli amser ac adnoddau.
Gallwch gyfuno un o’n prosiectau gyda’ch sesiwn fewnbwn eich hun, megis sesiwn gosod amcanion tîm, i wneud diwrnod gwerthfawr y tu allan i’r ysgol neu eich gweithle.
Diwrnodau Gweithgareddau
Mae ein cleientiaid yn defnyddio ein Diwrnodau Gweithgareddau ar gyfer dysgu sgil newydd, adeiladu tîm anffurfiol neu ddim ond i gael hwyl!
Gallwch ddewis un gweithgaredd ar gyfer y diwrnod – cyn i chi gyrraedd fel arfer – o’r rhestr isod:
- Ogofa
- Cerdded ceunentydd
- Canŵio / Padlfyrddio / Caiacio â’ch Coesau’n Rhydd
- Cerdded Bryniau
- Dringo creigiau ac abseilio (misoedd yr haf yn unig)
Os nad yw’r tywydd yn addas ar gyfer eich dewis weithgaredd, byddwn yn cynnig un arall i chi – byddwn yn sicrhau eich bod yn cael diwrnod da!
Ar gyfer prisiau a dyddiadau sydd ar gael, anfonwch eich gofynion atom drwy ein ffurflen gyswllt.