Mae de Cymru’n enwog iawn am ei ogofau. Byddwch yn dysgu sut mae ogofau yn ffurfio dros amser, beth sy’n byw o dan y ddaear a sut mae dyn wedi eu defnyddio ar hyd yr oesoedd.
Mae’r diwrnod ogofa wedi’i deilwra i anghenion grwpiau unigol, o anturio sylfaenol mewn ogofau â heriau hawdd i ardaloedd mwy anturus i grwpiau mwy hyderus.
Bydd ein hyfforddwyr ogofa cymwys yn eich arwain drwy ardaloedd tanddaearol trawiadol – gwrandwch ar eu straeon i ddysgu llwyth o wybodaeth am y byd bendigedig hwn.