Y Brif Ganolfan
Y Brif Ganolfan yw’r adeilad gwreiddiol sy’n dal hyd at 28 o bobl. A hithau wedi’i haddurno mewn arddull chalet Alpaidd, mae ganddi:
- Ardal fwyta sy’n dal tua 58 o bobl,
- Cegin,
- 1 ystafell gyda 3 gwely bync,
- 1 ystafell gyda 2 wely bync,
- 1 ystafell fawr wedi’i rhannu’n 3 adran – 1 gyda 2 wely bync, 1 gyda 2 wely bync a gwely sengl ac 1 a 3 gwely bync,
- 1 ystafell sengl i arweinwyr,
- 1 ystafell ddwbl i arweinwyr.
Mae rhagor o lety cysgu i 2-4 o bobl mewn gwelyau bync ar gael i grwpiau mawr iawn
Adeilad Newydd
Mae’r adeilad preswyl mwyaf newydd hefyd yn dal 30 ac yn cynnwys cyfleusterau i bobl anabl. Mae ganddo:
- Ystafell gyffredin fawr (Y Lolfa) gyda chyfleusterau AV,
- Cawodydd/ystafelloedd newid,
Fyny’r Grisiau
- 3 ystafell gyda 2 wely bync,
- 1 ystafell gyda 2 wely bync a gwely sengl,
- 1 ystafell sengl i arweinwyr,
Lawr Grisiau
- 2 ystafell yr un gyda 2 wely bync a gwely sengl,
- 1 ystafell i arweinwyr gyda gwely bync.
Mae rhagor o ardaloedd newid a chawodydd ar gael yn yr adeilad cyswllt sydd hefyd yn cynnwys y Storfa Offer ac ystafell sychu.
Ardal Wersylla
Mae gan yr ardal wersylla yng nghefn y Storey Arms le ar gyfer hyd at 20 o bebyll 2-berson. Mae yna dai bach a chyfleusterau ymolchi awyr agored ac mae’r ardal wedi’i dylunio i fod yn hunan-gynhaliol o adeiladau’r ganolfan, i’w defnyddio gan grwpiau annibynnol i’r rheiny sy’n aros yno.
Cofiwch fod y cyfleusterau hyn i’w defnyddio gan grwpiau addysgol a Gwobr Dug Caeredin yn unig.