Amdanom Ni

Mae Canolfan y Storey Arms yn ganolfan addysg awyr agored Cyngor Caerdydd sy’n gwasanaethu’n bennaf i ddinasyddion Caerdydd yn ogystal â phobl eraill o bob cwr o’r DU a thramor.

Y ganolfan addysg awyr agored yng nghalon Bannau Brycheiniog.

Mae Canolfan Storey Arms wedi bod yn gweithredu ers 1971 yn rhan o  Wasanaeth Addysg Cyngor Dinas Caerdydd.

Rydym yn cynnig ymweliadau dydd a phreswyl i ysgolion, grwpiau ieuenctid a theuluoedd ynghyd â dyddiau corfforaethol, meithrin timoedd a dyddiau gwahanol yn yr awyr agored.

Rydym yn croesawu grwpiau o Gymru, gweddill y DU a thramor.

Mewn cydweithrediad â Chyrff Llywodraethol Cenedlaethol gweithredoedd awyr agored, rydym hefyd yn cynnal cyrsiau cymhwyso fydd yn caniatáu i oedolion arwain grwpiau cerdded yn y mynyddoedd ac dringo.

  • General Activities
  • Adult Activities
  • Team Activities
  • Youth Activities

Caiff ein rhaglenni eu hanelu at bobl ifanc rhwng 9 – 18 oed, myfyrwyr addysg uwch ac oedolion.

Rydym hefyd yn gweithio gydag athrawon a’r rheiny sy’n gweithio mewn addysg uwch fel y gallan nhw ennill cymwysterau a datblygu sgiliau i allu darparu gweithgareddau awyr agored.

Mae ein rhaglenni awyr agored wedi eu cynllunio i ddatblygu ystod o sgiliau o fewn grŵp:

  • Corfforol – y gweithgareddau awyr agored eu hunain;
  • Cymdeithasol – dysgu cydfyw mewn cymuned glos;
  • Emosiynol – dysgu sut i herio terfynau personol i gynyddu hunan hyder a hunan-ddibyniaeth.

Mae ein rhaglenni hefyd yn mynd i’r afael â materion cynaliadwyedd a deall ein hamgylchedd naturiol.

Ein Tîm Arbennig

Ryan Stamp

RYAN STAMP

Pennaeth y Ganolfan

Hoff weithgareddau
Does gen i ddim un…. dwi’n dwlu arnyn nhw i gyd!

Hoff le yn y Bannau
Ardal orllewinol y parc yn ardal Fan Brycheiniog a’r Mynyddoedd Duon.

Ffaith
Fe ymwelais i â Chanolfan Addysg Awyr Agored y Storey Arms unwaith yn yr ysgol gynradd a dwywaith yn yr ysgol uwchradd. Ar ôl fy ymweliad cyntaf yn yr ysgol uwchradd ro’n i’n gwybod beth o’n i am wneud ar ôl ‘tyfu lan’.

Alastair Smith

ALASTAIR SMITH

Dirprwy Bennaeth y Ganolfan

Hoff weithgaredd
Cerdded bryniau

Hoff le yn y Bannau
Copa Fan Fawr, yn edrych lawr ar y Storey Arms 300 metr islaw.

Ffaith
Ro’n i am fod yn glown pan o’n i’n fach!

Damien Tracey

DAMIEN TRACEY

Tiwtor Addysg Awyr Agored

Hoff weithgaredd
Canwio, cerdded bryniau, beicio mynydd

Hoff le yn y Bannau
Sinc Giedd ar y Mynyddoedd Duon

Ffaith
Fi yw’r ail ieuengaf o bum brawd, ac mae o leiaf pedwar ohonom yn mwynhau’r awyr agored!

CLAIRE BEASLEY

Ysgrifenyddes y Ganolfan

Hoff weithgaredd
Dwi’n joio cerdded fy nghi ac ry’n ni bob amser yn aros am bach y tu ôl i raeadr Sgwd yr Eira i werthfawrogi nerth y dŵr.

Hoff le yn y Bannau
Mae gen i’r daith orau i’r gwaith, yn gyrru ar hyd yr A4059, yn enwedig gyda’r wawr a’r machlud. Golygfeydd gwych o’r Bannau a Chymoedd y De, yn frith o ddefaid a merlod mynydd. Mae pob taith fel cerdyn post newydd!

Ffaith
Dwi wrth fy modd yn teithio a gweld y byd. Dwi wedi ymweld â 5 allan o’r 7 cyfandir – dim ond De America ac Antarctica i fynd!

LOUISE DAVIES

Bwrsar Domestig

LIZ SMITH

Cynorthwy-ydd Domestig

© Storey Arms - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd