Hyd y cwrs
Dydd Llun – dydd Gwener Cyrraedd am 11.00 am / Gadael am 11.00 am
3 Diwrnod / 2 Noson – Cyrraedd am 10.30am / Gadael am 3.30 pm (neu’n gynharach os oes angen)
Cyrraedd ar y penwythnos am 7.00pm / Gadael am 4.00pm (dim pryd yn cael ei ddarparu gyda’r nos, nos Wener)
Ar gyfer arosiadau hyd gwahanol, byddwn yn cytuno ar amseroedd dechrau a gorffen gyda chi
Prisiau’r Tymhorau
Mae ymweliadau’n costio mwy neu lai ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, ar sail y flwyddyn academaidd. Mae’r tymhorau eleni fel a ganlyn:
ALLAN O’R TYMOR
19 Tachwedd 2018 – 24 Chwefror 2019
CANOL TYMOR
3 Medi – 18 Tachwedd 2018
Gwyliau’r Pasg a Hanner Tymor mis Mai (yn seiliedig ar ddyddiadau gwyliau ysgol Cyngor Caerdydd)
25 Chwefror – 24 Mawrth 2019
22 Gorffennaf – 1 Medi 2019
YN YSTOD Y TYMOR
25 Mawrth – 21 Gorffennaf 2019
Ac eithrio Gwyliau’r Pasg a Hanner Tymor mis Mai (yn seiliedig ar ddyddiadau gwyliau ysgol Cyngor Caerdydd)
Isafswm Tâl
Codir isafswm tâl sy’n cyfateb i 8 cyfranogwr ar grwpiau preswyl (6 chyfranogwr ar gyfer ysgolion a chanolfannau ieuenctid a redir gan Gyngor Caerdydd).
Lleoedd Am Ddim i Arweinwyr
Rydym yn cynnig 2 le am ddim i arweinwyr grwpiau sy’n cynnwys hyd at 20 o gyfranogwyr, 3 lle am ddim i grwpiau sy’n cynnwys 21 – 31 o gyfranogwyr, ac ati.
Codir tâl am arweinwyr ychwanegol ar sail y gyfradd cyfranogwyr.
Ar gyfer grwpiau ag anghenion arbennig cynigir dwywaith cymaint o leoedd am ddim i arweinwyr ar sail yr hyn a nodir uchod, gan godi 50% o’r gyfradd cyfranogwr ar arweinwyr ychwanegol.
Cyfrifoldeb y sefydliad sy’n ymweld â ni yw’r gymhareb staff-cyfranogwyr. Nodwch ar y ffurflen os ydych am drafod hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae ffioedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant, offer arbenigol a chludiant yn ystod y cwrs
Cyfrifoldeb y grŵp yw teithio i ac o’r ganolfan
Bydd angen i grwpiau ddod â’u pecyn cinio/diodydd eu hunain gyda nhw ar gyfer y diwrnod cyntaf (ac eithrio’r rheiny sy’n aros ar benwythnos)