Mae gan y ganolfan gwrs cyfeiriadu a ddefnyddir yn aml gyda’r nos neu gan grwpiau sy’n ymweld am y dydd. Mae gennym hefyd gwrs parhaol mwy heriol yng Nglyn Tarrell, dafliad carreg o’r ganolfan.
Bydd yr hyfforddwyr yn dangos i chi sut i ddarllen a defnyddio’r map. Gan ddefnyddio nodweddion y tir a’r map, byddwch yn ffeindio eich ffordd o amgylch y cyrsiau hyn mewn amgylchedd diogel.
Byddwn hefyd yn dangos i chi sut i ddefnyddio GPS ar gyrsiau llywio a chyfeiriadu.