Ers dros 30 mlynedd, mae Canolfan Storey Arms wedi bod yn brif ddarparwr cyrsiau hyfforddi ac asesu gwobrau arweinyddiaeth Hyfforddiant Mynydd. Mae’r rhain yn galluogi oedolion i arwain grwpiau cerdded bryniau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon mewn amrywiaeth eang o amgylcheddau awyr agored.
Cysylltwch â ni i gael manylion am ein cyrsiau Sgiliau yn y dyfodol.
Cerdded Bryniau
Rydym yn cynnig y rhaglenni cerdded bryniau canlynol i’r rheiny sydd am arwain grwpiau:
- Arweinydd Tir Isel
- Hyfforddiant Arweinydd Bryniau a Gweunydd
- Arweinydd Mynydd – Haf
Os nad ydych am arwain grwpiau o bobl eraill ond eich bod am ddysgu a datblygu eich sgiliau cerdded bryniau eich hun, rydym yn cynnig:
- Sgiliau Cerdded Bryniau
- Sgiliau Mynydda
Os nad ydych yn siŵr pa gynllun yw’r gorau i chi, ewch i’r wefan Mountain Training yma.
Dringo Creigiau
I’r rhai sydd â diddordeb mewn dringo creigiau, rydym yn cynnig y canlynol:
- Hyfforddwr Wal Dddringo
- Hyfforddwr Dringo Creigiau
Mewn cysylltiad â darparwr lleol, Manzoku Climbing and Mountaineering, gallwn hefyd gynnig:
- Cynorthwy-ydd Dringo Dan Do
- Hyfforddwr Datblygu Wal Ddringo
- Sgiliau Creigiau – pob lefel
Os nad ydych yn siŵr pa gynllun yw’r gorau i chi, ewch i’r wefan Mountain Training yma.