Os hoffech wneud ymholiadau ynglŷn ag ymweld â Chanolfan y Storey Arms, dewiswch y ffurflen fwyaf perthnasol isod.
Byddwn yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni – bydd yn ein helpu i ymateb i’ch ymholiad yn gyflym.
Ein nod yw cysylltu â chi o fewn 3 diwrnod gwaith.
Os oes gennych ymholiad gwahanol, defnyddiwch y ffurflen isod.
Caiff y wybodaeth a roddwyd gennych ei phrosesu gan Ganolfan Storey Arms dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol, ond gellir ei rhannu ag adrannau perthnasol yn y Cyngor, gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn achos salwch/anaf neu pan fo hynny’n ofynnol gan y gyfraith.
I gael rhagor o wybodaeth ar sut mae Canolfan Storey Arms yn rheoli data personol, darllenwch ein polisi preifatrwydd drwy’r ddolen ganlynol – Preifatrwydd Data
Ffôn: +44 (0)1874 623598
E-bost: storeyarms@cardiff.gov.uk
Drwy’r post:
Storey Arms Centre,
Libanus,
Brecon,
Powys,
LD3 8NL, UK
Cyfeiriadau
Mae Canolfan y Storey Arms, 440m uwch lefel y môr, yn un o ganolfannau addysg awyr agored uchaf y DU. Mae’n gorwedd wrth odre Corn Du a Phen y Fan, ger y ffordd brifwythiennol rhwng gogledd a de Cymru. Felly, mae’r lleoliad yn un anghysbell ond cyfleus, gwta 45 munud o Gaerdydd a 75 munud o Ail Bont Hafren. Mae Canolfan y Storey Arms ar bwynt uchaf yr A470 o Ferthyr Tudful i Aberhonddu – filltir i’r gogledd o’r gyffordd â’r A4059. Mae hyn a hyn o lefydd parcio ar gael ym maes parcio’r ganolfan. Mae’r orsaf drenau agosaf ym Merthyr Tudful, ac mae bysus i Aberhonddu yn cysylltu â’r trenau. Mae safle bws gyferbyn â’r ganolfan.
Grid reference: SN 982 203
Map: OS Explorer OL12 – Brecon Beacons Western Area
Post Code: LD3 8NL